Am Dro am Glonc Sir Gar
Bydd bod yn fwy actif o les i chi beth bynnag eich oedran, eich maint neu’ch anabledd.
Cerdded yw un o’r ffyrdd gorau o ddechrau bod yn actif, mae’n wych - fe allwch chi ei wneud unrhyw le, unrhyw bryd a naill ai ar eich pen eich hun neu fel rhan o grŵp cerdded sefydledig.
Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw 30 munud o gerdded o arddwysedd cymedrol neu fywiog bump neu fwy o ddiwrnodau’r wythnos. Gallwch wneud hyn mewn un sesiwn neu drwy wneud sesiynau 10 munud dros sawl diwrnod i gronni 30 munud.
Mae arddwysedd cymedrol yn golygu gweithio’n ddigon caled i’ch gwneud i anadlu’n drymach nag arfer a bod ychydig yn gynhesach, ond ddim yn ddigon caled fel nad ydych yn gallu siarad a bod yn actif ar yr un pryd, neu fel eich bod wedi blino’n lân.
